Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 27
Mehefin 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
(60 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU’ - GOHIRIWYD TAN 4 GORFFENNAF 2023
(0 munud)
5 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio’r tribiwnlysoedd ac esblygiad y maes cyfiawnder yng Nghymru
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol i Gymru
(30 munud)
7 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg
(30 munud)
8 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar ddeddfwriaeth amgylchedd bwyd iach
(30 munud)
9 Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023
(15 munud)
NDM8301 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mehefin 2023.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymateb Llywodraeth Cymru
10 Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
(5 munud)
NDM8303 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 2-5;
b) Adran 1;
c) Teitl hir.
11 Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi
(5 munud)
12 Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
(15 munud)
NDM8308 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fel y'i diwygiwyd yn y Cyfnod Adrodd
13 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein
(15 munud)
NDM8302 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Ar-lein i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mawrth 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2022, 8 Tachwedd 2022, 21 Rhagfyr 2022 a 1 Mehefin 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Bil Diogelwch Ar-lein - Senedd y DU (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol (Memorandwm a Memorandwm Rhif
2)
Adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol (Memorandwm Rhif 3 a 4)
Adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol (Memorandwm Rhif 5)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm Rhif 5)
14 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 28 Mehefin 2023